Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Awd at yr ail gytgan yr ail noson. Yr oedd gwbl ddieithr i'r rhan fwyaf, a byddai Emlyn yn cychwyn ei lais ei hun, ac yna yn troi i helpu, weithiau y Bass, weithiau yr Alto, dro arall y Treble, er mawr ofid i'r rhai hynny a dybient eu hunain yn rhywrai; a chai Emlyn ambell i sên dros ysgwydd megis, ond yr oedd yn hollol barod oedd yr i roi sên yn ol. Yr oedd yn cario arfau miniog y pryd hwnnw. Ac fe wnaeth yr Arweinydd sylw tebig i hyn ei fod wedi clywed fod cryn dipyn o gwyno fod rhai o aelodau'r cor yn llawn digon parod i ymyrryd dan yr esgus o gynorthwyo rhai o'r lleisiau eraill. Ond yr oedd yn ofalus i beidio enwi neb. Cred y rhan fwyaf oedd fod Emlyn wedi bod yn dysgu y darnau yn rhywle arall, tua'r De neu Cheltenham neu rywle: onibai ei fod wedi eu dysgu ni fuasai byth yn medru eu canu yn straight off ar y geiriau.

"Ond dyma nhw'n dod at y Corws anhawddaf yn y llyfr, ac y mae'n amlwg fod Mr. Pearson wedi penderfynu dwyn y gwr ieuanc i brawf. Just ar ddechreu'r darn, wedi i un neu ddau o'r rhannau fethu dod i fewn, dyma'r arweinydd yn sefyll, ac yn troi ei wyneb i gyfeiriad y Tenor, ac yn dweyd, 'Os oes un ohonoch chwi yn y top yna yn proffesu eich bod yn deall y darn hwn, dowch i lawr yma i roi eglurhad i'r cor ar y mannau dyrus yma.' Ac meddai Emlyn wrth Hugh Davies, 'At bwy mae e'n cyfeirio'? Atoch chwi, 'ddyliwn.' Dyma Emlyn yn codi ac yn cerdded i lawr at yr Arweinydd. Beth yw eich anhawster, Mr. Pearson?' meddai. 'Wel, rhaid i mi gyfaddef nad wyf yn deall y trawsgyweiriadau dyrus yma.' Meddai