Emlyn, 'A wnewch chwi i gyd droi i'ch llyfrau?' Yna dechreuodd egluro iddynt o far i far, ac o frawddeg i frawddeg, gan ganu y gwahanol frawddegau yn y gwahanol rannau. Ac nid egluro y traws—gyweiriadau a wnaeth yn unig, ond aeth i fewn i gyfansoddiadaeth y darn, gan ddangos fel yr oedd y naill frawddeg yn tyfu yn naturiol o'r llall. Ymgollai yn ei waith, a gwnaeth y cwbl mor ddiddorol, ac mewn ffordd mor ddidramgwydd i bawb—ni wnaeth gymaint ag un cyfeiriad personol at neb. Bu wrthi am ddeugain munyd. Edrychodd ar ei watch, a dywedodd, 'Mae'n wir ddrwg gennyf eich cadw gyhyd,' a chychwynnodd i'w le. 'Arhoswch yn y fan lle'r ydych, syr,' meddai yr Arweinydd, ac estynnodd y baton iddo. O na wna' i,' meddai yntau, chwi yw'r arweinydd, ond mi rof fi bob cymorth i chwi,' ac aeth i'w le. 'Pe bawn i yn gwybod' meddai Mr. Pearson, fod y fath gerddor yn ein plith, fuaswn i ddim yn cymryd y byd am geisio eich arwain. Ac fe fydd yn bleser o'r mwyaf gennyf gymryd fy lle yn y cor o dan arweiniad Mr. Emlyn Evans. Ac aeth yn full stop wnai Pearson ddim arwain ymhellach, a gwrthodai Emlyn gymryd ati.
"Awgrymodd rhywrai fod y pwyllgor i ymneilltuo ac i benderfynu y mater. Hynny a fu, a dyma'r pwyllgor yn ei ol ac yn mynegu Ein bod ni yn unfryd unfarn yn gofyn i Mr. Emlyn Evans i ymgymeryd a'r arweinyddiaeth.' Wedi cryn dipyn o gymell, cydsyniodd yntau; a pharhaodd i arwain tra bu yn y dref."
Enwyd y côr yn "Newtown Glee & Madrigal Union," a dywedir wrthym i Emlyn "wneud ei ol ar