gerddoriaeth y dref, a'r trefi cylchynol." Cynhaliwyd cyngerdd o bwys yno yn Nhachwedd 1870, yn ol llythyr o'i eiddo at Mr. Dd. Lewis, dyddiedig Rhag. 13, 1870—
"Cawsom Oratorio a Chyngherdd fendigedig yma y mis diweddaf, 'Judas,' etc., gyda Edith Wynne, Cummings, Maybrick [Stephen Adams,] etc., a chorus o tua 80 o dan arweiniad dy humble friend D.E.E.: llwyddiant hollol. Bydd yma un arall yn y gwanwyn. Ond nid da rhy o ddim.' Mae yn lladd fy nghyfansoddi."
Tua'r un adeg buont yn rhoddi cyngerdd ym Machynlleth er budd clwyfedigion y rhyfel rhwng Germani a Ffrainc; ac ym mis Rhagfyr aethant i Aberystwyth i helpu Mr. Inglis Brown a'i gyngerdd. Ynglŷn â hwn ysgrifennodd at ei gyfaill o Lanrhystyd i ofyn iddo ddod yno er mwyn cael ymgom. Ymddengys na ddaeth, a derbyniodd Emlyn ei lythyr ar ei ddychweliad o Aberystwyth. Mewn ateb i hwn dywed:
"Byddai yn llawen iawn gennyf gael dy gwm—peini yn Aberystwyth neithiwr, ond 'doedd dim help. Cafodd y cyfaill gyngherdd rhagorol. Cafodd y llwch hwn ormod o ganu, gan fod yr encores tragwyddol yna yn arglwyddiaethu pob peth.—Byddai yn llon iawn gennyf dy gyfarfod di a'r frawdoliaeth gerddorol rywbryd yn yr haf yma—efallai y gallwn ei threfnu eto . . . Mae surplus yr oratorio yma (ar ol talu dros gan punt o dreuliau) wedi chwyddo'n awr i £108. Byddaf yn canu yn Llanidloes (efo Mynyddog) ar y 29ain, a Chyngherdd yma dydd Calan eto. Yr wfft i'r canu!"