Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/93

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

X. MASNACH: "Y GAN."

YN 1871 cawn ef yn cychwyn ar gwrs newydd ym myd masnach fel trafaeliwr masnachol (commercial traveller)—cwrs a barhaodd am lawn ugain mlynedd. Na thybied y darllenydd am foment ei fod allan o'i elfen yn y byd hwn, nac mewn hualau ar y ffordd." Ni fyddai mor gywir dweyd fod ei ymroddiad i'w fasnach yn fach ag a fyddai dywedyd fod ei gariad at gân yn fwy. Yr oedd yn ddyn busnes o'r iawn ryw,—yn fyw, yn ymroddus, yn bendant. Er ei eni gyda thueddfryd delfrydol cryf, nid gwannach mo'i ymhyfrydiad ym myd actau pendant, ym myd amser a lle. Ond os oedd y duedd yn gynhenid gryf ynddo, cafodd fantais i'w datblygu a'i disgyblu yn ei fusnes, yn gystal yn y safleoedd o gyfrifoldeb a lanwai yn Cheltenham a'r Drenewydd, a phan yn trafaelu o dref i dref ar ran y cwmni. Yr oedd yn rhaid iddo fod yn fanwl, yn brydlon, i'w air, neu ynteu fethu. Yn wir yr oedd ei ymagweddiad tuagat y byd masnachol, nid yn un o atgasrwydd na chŵyn hyd yn oed, ond yn un o ymhyfrydiad ac edmygedd; clodforai ei bwerau disgyblaethol, ac edrychai arno fel maes prawf talentau tybiedig, ac addysg ysgol a choleg. Bu'r ddisgyblaeth a gafodd yn ei fasnach o help mawr iddo yn ei waith arall yn ddiweddarach; ni allsai byth wneuthur y gwaith a wnaeth, a chyda'r fath effeithiolrwydd, onibâi am y trefnusrwydd a'r trylwyredd a ddysgodd gyda'i fasnach.