Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/94

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bid siŵr ni fedrai lai na chondemnio oriau meithion y faelfa yn ei amser ef. Ar y cyfrif hwnnw, yr oedd bywyd y trafaeliwr, gyda'i symud a'i amrywiaeth, a'i helynt hyd yn oed, yn un o waredigaeth iddo. Deuai y prif anhawster i mewn gyda newid llety'n gyson, byw mewn gwestai ddydd ar ol dydd, ofn afiechyd nos, yr haint a rodia yn y tywyllwch," ac ymgyfaddasu i'r deithriaid na allai osgoi dod i gyffyrdd—iad â hwy. Oblegid y mae'n rhaid inni gofio'i fod yn un o deimladau llednais, a'i fod wrth natur yn un o'r rhai mwyaf gwylaidd a neilituedig; eto, drwy benderfyniad di—ildio, gorchfygodd ogwydd natur a rhugl amgylchoedd anghydraws, nes dod bob yn dipyn i deimlo'n dra chartrefol yn y byd newydd, ac i sugno'i bleser heb ei boen. Daeth yr elfen yma o "boen" bywyd y trafaeliwr i fwy o amlygrwydd yn ddiweddarach gyda gwanychiad ei iechyd, a phan oedd nychtod yn gydymaith cyson, ac yntau'n mhell oddicartref.

Un elfen arbennig o swyn iddo ef yn y math hwn ar fywyd oedd y rhoddai gyfle iddo yn y blynyddedd cyntaf yn bennaf—i ymgydnabyddu â'r Gymru. a garai mor fawr. Oblegid fe deimlai ef ddiddordeb, nid mewn "gweld y wlad" yn gyffredinol, a chael golygfeydd newydd i gyson oglais ei lygaid a deffro cywreinrwydd arwynebol, ond, fel un yn meddu ar reddf hanesyddol gref, mewn taleithiau a threfi, a phentrefi, y byddai iddynt hanes a diddordeb gwladgarol, llenyddol, neu gerddorol. Yn y modd hwn, yn gystal â thrwy ei ymweliadau eisteddfodol, daeth yn gydnabyddus â gwahanol rannau o Gymru, ac yn dra hyddysg yn eu hanes.