Gyda'r eithriad a nodwyd (ar ei ddychweliad i Gymru) bu'n dra ffodus a dedwydd yn ei gysylltiadau masnachol. Yr oedd ganddo allu eithriadol i wneuthur cysylltiadau busnes yn rhai cyfeillgar. Yr oedd yn "bersonoliaeth ddiddorol," a chanddo ddoniau cymdeithasol o radd uchel. Y canlyniad oedd iddo'n raddol wneuthur llu o gyfeillion—ac wrth "gyfeillion" golygwn rywbeth mwy na chydnabod nid yn unig ymhlith ei gyd-drafaelwyr, ond hefyd ymysg y siopwyr. Yn ychwanegol at hyn rhoddai ei deithiau hefyd gyfle helaeth iddo ddod i gyffyrddiad personol â cherddorion a chantorion y parthau yr ymwelai â hwy. Y mae'n eglur felly mai nid bywyd llwyd a diflas oedd eiddo Emlyn yn ystod y blynyddoedd hyn, ond bywyd llawn o "fynd" ac o liwiau symudol; ac er ei fod mewn un ystyr heb gartref i ddychwelyd iddo'n gyson, yr oedd ganddo lawer o "gartrefi oddicartref" dros y rhan fwyaf o Gymru.
Yr oedd mantais arall yn perthyn i'r math yma ar fywyd galluogai ef i fod o wasanaeth ynglŷn â Chaniadaeth mewn gwahanol rannau o'r wlad. Cawn ef yn aelod o'r "Côr Mawr" yn 1872. Yr oedd yr bresennol yng nghyfarfod y pwyllgor cyffredinol yn Neuadd Ddirwestol Aberdâr, Awst 20fed, pryd yr etholwyd ef—gyda Charadog, Eos Rhondda, Alaw Ddu, D. Rosser, D. Francis, a Dl. Griffiths—yn aelod o'r Pwyllgor Y Cerddorol—pwyllgor oedd i arolygu holl aelodau'r Côr ar gyfer cystadleuaeth y flwyddyn ddilynol.
Y pryd hwn, cymerai ran fel datganydd yn gyson mewn cyngherddau—nid yn broffeswrol, ond gan mwyaf i helpu cyfeillion. Wedi gorffen ei fywyd arhosol yn y Drenewydd, cawn ef yn cymryd rhan