Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/106

Gwirwyd y dudalen hon

ysgrifenai o wlad bell ymhen tua blwyddyn ar ei ol ei farw, ac a ddywedai, ei bod yn cofio yn dda am y parch a ddangosid iddo yn y palasdy (Talgarth Hall), ac am y siarad uchel a glywsai hi a'r plant eraill yno am dano bob amser gan eu rhieni. Un o'r geiriau olaf a ddywedodd y Parch. J. Foulkes—Jones, B.A., Machynlleth, wrtho, oedd ei sicrhau ei fod ar y ffordd i'r nefoedd. Dywed ef ei hun yn ei nodiadau er coffadwriaeth am y gwr anwyl hwnw, "Y tro diweddaf i mi ymweled ag ef (Mawrth 8fed, 1880), dywedai y byddai gartref yn fuan. 'Yr ydych chwithau,' meddai wrthyf, 'yn meddwl dyfod i'r nefoedd yn fuan—yr ydych ar y ffordd, ac mi ddwedaf wrthynt pan af yno eich bod yn dyfod.'"

Derbyniodd Mrs. Rowland ugeiniau o lythyrau ar ol ei ymadawiad, o bob parth o Gymru, a gwledydd eraill hefyd. Ac er mwyn rhoddi barn eraill am dano fel dyn, cyfaill, a Christion, ac fel un a fu o wasanaeth mawr i grefydd, rhoddwn rai dyfyniadau allan o'r lliaws llythyrau.

—————————————

NODIADAU GAN YSGRIFENWYR ERAILL

—————————————

I.

Y Parch. R. J. Williams, Blaenau Ffestiniog

BYDD yn chwith iawn ar ei ol ymhob cylch y byddai yn troi ynddo yn y Cyfarfod Misol, yn y cylch adref, ac yn neillduol ar yr aelwyd. Bydd ya fwy anhawdd pregethu yn Mhennal o lawer wedi ei golli. Yr oedd ei sirioldeb a'i Amen cynes yn gymhorth mawr iawn, ac yn enwedig ei ysbryd rhagorol. Ni wn am neb yn mwynhau llawenydd a dedwyddwch crefydd yn fwy nag yr oedd ef yr ochr yma. Ond pa faint mwy y mae yn ei fwynhau heddyw yr ochr draw!