Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/109

Gwirwyd y dudalen hon

nag ef, "Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a'i holl lwybrau hi ydynt heddwch." Crefydd oedd ei hyfrydwch penaf, a byddai pob peth a ddywedai ac a wnai yn tueddu i ddyrchafu crefydd Crist. Mae Pennal yn wag iawn rywfodd hebddo ef; mae un o'r goleuadau wedi machludo. Ni byddwn byth yn meddwl am Bennal heb feddwl am David Rowland, ac mae'n debyg nas gallaf feddwl am y lle eto ychwaith.

——————

VI.

Mrs. Green, 7, Winchesley Road, Hampstead, Llundain.

Gyda gofid a hiraeth dwys y clywais am farwolaeth fy anwyl hen ffrynd, Mr. Rowland, a dymunaf anfon yr ychydig eiriau hyn i'ch sicrhau o'm cydymdeimlad llwyraf. Yr wyf wedi meddwl llawer am danoch, a cheisio gweddio trosoch am i Dduw pob diddanwch fod yn agos iawn atoch yn eich unigedd. Y mae yn syn iawn genyf feddwl ei fod wedi myned. Yr oedd genyf serch mawr bob amser tuag atoch eich dau—yn wir ychydig iawn oedd mor anwyl genyf—quite yn yr inner circle fel y dywedwn. Un o'r pethau cyntaf wyf yn gofio oedd cael myned i Gyfarfod Misol Pennal, at Mr. a Mrs. Rowland, ac yn addaw bod yn eneth fach iddynt ar ol d'od o'r ysgol.

——————

VII,

Y Parch. John Owen, Wyddgrug.

Derbyniais y newydd trist am farwolaeth Mr. David Rowland boreu heddyw, a choeliwch fi (llythyr at yr ysgrifenydd).