Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/120

Gwirwyd y dudalen hon

a lynodd byth yn eu meddyliau. Y mae aml un o honynt yn wasgaredig ar hyd y byd heddyw, yn dwyn tystiolaeth groew i'r lles a dderbyniasant trwy ei gynghorion. Gwelwyd ef yn myned gryn bellder allan o'r ffordd, i rybuddio rhywrai oedd yn esgeuluso moddion gras. "Nis gallaf," meddai, "fod yn dawel heb wneyd fy nyledswydd tuag atynt. Os methaf a llwyddo boed hyny arnynt hwy." Gwelwyd ef hefyd un tro pau oedd gwraig yn yr ardal wedi dangos ysbryd anfoddog tuag ato, yn penderfynu anfon present iddi, "er mwyn," meddai, "ddyfod a'i hysbryd i'w le." A chan wneuthur felly, cyflawnai yr Ysgrythyr trwy "bentyru marwor tanllyd" ar ben ei wrthwynebydd.

CYDYMDEIMLAD A'R HELBULUS.

Yr oedd yn hynod iawn hefyd am ei gydymdeimlad â'r helbulus a'r trallodedig. Cydymdeimlad trwyadl, yn y pellder eithaf oddiwrth bob rhith ac ymddangosiad, Pell iawn fyddai bob amser oddiwrth bob peth ffuantus. Meddai fedrusrwydd tu hwnt i'r cyffredin i dywallt olew ar friwiau yr archolledig. Cofia llawer am ei gydymdeimlad yn mlynyddoedd olaf ei oes, a cheir rhai ag y mae y cydymdeimlad a ddangosodd tuag atynt dros ddeugain mlynedd yn ol, yn fyw iawn yn eu côf eto.

GWR HAELIONUS

Ynglyn a'r elfen o gydymdeimlad gwirioneddol a drigai yn nyfnder ei natur, neu yn hytrach feallai yn cyfodi o'r elfen hon, perthynai iddo ysbryd rhagorol arall, sef ei ysbryd haelionus. Llanwyd ei natur hyd yr ymylon gan garedigrwydd. Megis y dywedir am y rhai llednais, eu bod yn cael eu prydferthu ag iachawdwriaeth, prydferthwyd ei natur yntau 'r gallu i gydymdeimlo, ac a'r gallu i fod yn haelionus. Bu fyw ar hyd ei oes filldiroedd o ffordd oddiwrth genfigen; yn hytrach,