Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/123

Gwirwyd y dudalen hon

fod ar ffordd neb, ac yr oedd yr hawsaf un i gyd-weithio ag ef. Gwir nad oedd yn gynlluniwr nac yn drefnwr, ond elai gyda'r golofn y funyd y gwelai y golofn yn symud. Yr oedd yn un o'r rhai goreu a adnabyddwyd erioed, yn ol dywediad y Parch. David Davies, Abermaw , i waeddi hwi gyda phob symudiad er lles yr eglwysi, ac er hyrwyddo teyrnas y Gwaredwr yn ei blaen . Elfen gref ynddo ydoedd, ei fod bob amser yn credu yn ei frodyr, yn enwedig arweinwyr y Cyfundeb. Y rhai y byddai yn methu cydfyn'd â hwy oeddynt cybyddion a chrefyddwyr crintachlyd, a dynion yn proffesu eu bod yn Fethodistiaid, ac yn arbenig blaenoriaid gyda'r Methodistiaid, ac eto am gario achos yr eglwysi ymlaen yn ol eu mympwy eu hunain, gan ddywedyd gyda phob peth a ddaw o'u blaen, "Y ni sydd yn gwybod, y ni sydd i lywodraethu, mae'r eglwys wedi ein dewis ni yn swyddogion, ac nid oes neb yn gwybod am ein hachos ni ond y ni, a hwythau wedi ymgyfamodi o'r cychwyn, ac wedi addaw yn y Cyfarfod Misol wrth gael eu derbyn yn aelodau o hono, i fyw yn ol rheolau a threfniadau y Methodistiaid, er gwell ac er gwaeth. Gwyddai ef fod y fath beth yn bod ag i ddau cant o wyr goreu y Cyfundeb wybod yn well am amgylchiadau yr eglwysi na haner dwsin mewn un eglwys, a chaniatau i'r haner dwsin fod yn bobl eithaf gwybodus. Credai yn ei frodyr, yn gystal ag y credai yn yr angenrheidrwydd i anturio llawer trwy ffydd gydag achos yr efengyl, a rhoddai ei holl wres a'i yni i yru pob peth yn ei flaen .

BLAENOR ANGHYHOEDD

Er hyny, blaenor anghyhoedd fu am y deg neu bymtheng mlynedd cyntaf. Hoffai dawelwch, ac nid oedd ynddo y radd leiaf o awydd i chwenychu y blaen. Gadawai i eraill flaenori, a gwnai yntau unrhyw waith a ddigwyddai ddyfod i'w ran . Yr oedd yn dueddol hyd ddiwedd ei oes i ollwng pethau o'i