Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/125

Gwirwyd y dudalen hon

Yn wahanol i lawer o ddynion, cynulleidfa fawr a'i tynai ef allan i siarad oreu. Dywedid am Dr. Owen Thomas, nad oedd dim yn fwy boddhaus ganddo na thyrfa fawr o'i flaen. Siarad ai yn llawer grymusach i filoedd o bobl nag i ychydig ganoedd. Goreu po liosocaf y gynulleidfa i beri i Dafydd Rolant siarad yn effeithiol, yn enwedig os gelwid arno yn ddirybudd. Medrai gyda'r hwylusdod llwyraf wneuthur ei hun yn glywadwy i dyrfa fawr, a byddai presenoldeb llawer o bobl yn ei dynu allan i'r fantais oreu. Fel y dywedwyd, gadawai ef y trefniad au i rywrai eraill, ond pan gyfodai i fyny i siarad efe fyddai pia hi. Yn ystod y deng mlynedd ar hugain olaf o'i oes yr oedd yn dra adnabyddus yn nghylch y Cyfarfod Misol fel siaradwr.

POB DYN GYDA'I BETHAU.

Yn y seiat gyhoeddus, yn rhoddi cynghor i flaenoriaid , yn gwneuthur coffhad, yn dywedyd ar gasgliad—dyna'r manau y gwelid ef ar ei orau. Y mae un hanesyn am dano mewn Cyfarfod Misol, wedi ei gofnodi mewn lle arall, rhyw ddwy flynedd yn ol. Diwrnod cyntaf y Cyfarfod Misol hwnw, yr oedd wedi sylwi nad oedd un o flaenoriaid y lle yn cymeryd llawer o ran gyda'r brodyr eraill. Yn y seiat gyhoeddus bore dranoeth adroddai y blaenoriaid eu profiadau, ac yr oedd arogl esmwyth iawn ar y cyfarfod, yn enwedig pan adroddai y brawd crybwylledig ei brofiad. Yr oedd y brawd hwnw ar yr uchel fanau, a'i brofiad yn odiaethol o felus. Galwyd ar David Rowland i ddweyd gair yn y cyfarfod hwn. " Wel," meddai, " yroeddwn i yn edrych ar y brawd yna ddoe gyda'r blaenoriaid eraill, ac yn ceisio ffurfio barn am dano, fel y bydd dyn, ac nis gwyddwn yn iawn beth i feddwl o hono, yr oeddwn yn tybio mai un go dead oedd o; ond heddyw, wedi iddo ddod at ei bethau, mae o yn wych iawn, yn odds felly. Y mae o fel y blodeuyn yn