Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/126

Gwirwyd y dudalen hon

ymagor o dan belydrau yr haul. Wedi i ddyn ddod at ei bethau, welwch chwi, mae rhywbeth ynddo wedi'r cwbl. "

EI DDULL O SIARAD YN GYHOEDDUS

Nid yw yn hawdd dweyd yn mha le yr oedd cuddiad ei gryfder fel siaradwr. Safai ar ei ben ei hun, ac nis gellir ei ddesgrifio gyda dim manylrwydd. Yn gyffredin , rhyw un meddwl fyddai ei areithiau , ac amcanai o'r dechreu i'r diwedd, weithio hwnw allan, a llwyddai y rhan fynychaf yn rhagorol i wneuthur hyny. Ei ddull, ei ysbryd, a'i wres oeddynt y prif factors yn ei lwyddiant fel siaradwr. Fel rheol, pan y codai ar ei draed, dechreuai siarad yn arafaidd; ymaflai âg un llaw yn ngholar ei gôt, a phob yn dipyn, tynai y llaw arall yn hamddenol trwy wallt ei ben. Gallai rhai na chlywsant ef erioed o'r blaen dybio na feddai fawr ddim i'w ddweyd. Ond troai yn hamddenol o gwmpas rhyw un gwirionedd yr amcanai ei argraffu ar feddwl y gynulleidfa; a phan y byddai y fellten ar ymdori, gollyngai ei law yn rhydd o golar ei gôt, ac fel pe bwriadai ei thaflu at y bobl, allan â'r sylw fel tân poeth ar lwyn o eithin sychion. Droion eraill, byddai yn ysgafn, a chwareus, a difyr, o ddechreu ei araeth i'w diwedd.

YN GWNEUTHUR COFFHAD AM DR. CHARLES , ABERDYFI, YN 1879.

Gwnaeth farciau uchel aml i waith wrth siarad mewn cynulliadau cyhoeddus. Soniwyd llawer am dano yn gwneuthur coffhad am Dr. Charles, Aberdyfi, yn Nghyfarfod Misol Dolgellau, ac yn Nghymdeithasfa Caergybi, yn Ngwanwyn y flwyddyn yn 1879. Yr oedd ganddo gryn fantais i siarad yn y manau hyny, oblegid yn Mhennal y pregethodd Dr. Charles, y Sabboth olaf yn ei oes, a bu farw yn sydyn cyn y Sabbath