Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/128

Gwirwyd y dudalen hon

bydol, wedi dysgu byw yn yr ysbryd yn iawn; ac ar ol dysgu hyn yn fanwl, fel y dywedai John Elias, ar ol dysgu y llyfr corn, y mae yn cael ei godi bob yn dipyn i'r Grammar—yn disgwyl am ymddangosiad y Duw Mawr. Mae llawer am fyned i'r Grammar heb ddysgu y llyfr corn— am esgyn cyn disgyn i ymwadu âg annuwioldeb. Mae yn bwysig iawn i'r pregethwyr fod yn ddynion duwiol. Nis gellwch bregethu yn dda heb i chwi allu gwneyd i bawb deimlo eich bod yn ddynion duwiol. Wel, 'does dim diwedd ar ddweyd am dano. Yr oedd mor nefolaidd fel yr ydym wedi clywed nas collasom ef—aeth i fyny. Fe slipiodd fel Enoc gynt, aeth i fyw mor agos at Dduw, fel y cymerodd Duw ef i fyny ato ei hun."

YN GWNEUTHUR COFFHAD AM DR. EDWARDS, Y BALA, YN 1887.

Yn Nghymdeithasfa Caernarfon, yn 1887, yr oedd yn un o'r rhai a siaradent pan yn gwneuthur coffhad am Dr. Edwards, y Bala. Eisteddai ar y llawr yn nghapel Moriah, yn agos i'r set fawr. Yr oedd un o flaenoriaid synhwyrol Dwyrain Meirionydd wedi bod yn llefaru o'i flaen, yr hwn a siaradai yn araf a lled drymaidd. Galwyd arno yntau yn nesaf ar ei ol. Cyfododd ar ei draed gan droi at y gynulleidfa, a siaradai mewn llais clir fel cloch:—

" Yr oedd Dr. Edwards yn byw yn lled bell oddiwrthym ni yn Mhennal," meddai " ond yr oeddym yn ei 'nabod yn reit dda. Anaml y byddem ni yn ei weld o acw, ond 'doedd dim posib peidio adnabod Mr. Edwards, yr oedd yn ddyn mor clever, mor noble. Ac yr oeddym yn byw yn yr un sir. Yr oedd yn cario dylanwad welwch chwi, ar bob cwr o Gymru. Yr oedd Mr. Edwards yn pregethu yn ei ymddangosiad allanol --yn ei berson hardd. Y tro cynta 'rioed i mi ei weled o, mi gofiais yr olwg arno byth. Yr oedd o yn eich codi chwi i fyny