Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/134

Gwirwyd y dudalen hon

yn gryf a phenderfynol. Pan y gofynodd cyfaill iddo sut yr oedd un diwrnod, dywedai,— "Byddaf gydag Abraham, Isaac, a Jacob yn bur fuan bellach." Dywedai yn orfoleddus iawn un diwrnod,-

"Amser canu, diwrnod nithio,
Eto'n dawel heb ddim braw,
Y gwr sydd i mi yn ymguddfa
Sydd a'r wyntyll yn ei law."

Y dyddiau olaf aeth nad allem ei ddeall yn dweyd yr un gair. Darfu i'r jaw-bone ymryddhau, a thrwy hyny aeth ein cymdeithas ni ag ef yn llai. Nid oedd gan y teulu a minan ddim i'w wneyd bellach ond wylo uwch ei ben. Dywedodd Mrs. Humphreys wrtho—gan nad allai ddweyd dim byd wrthynt—A allai efe ddim gwneyd yr un arwydd arnynt fod pob peth yn dda, a'i fod yntau yn teimlo felly ar y pryd. Estynodd yntau ei lawer gwaned ydoedd—a throdd hi gylch ei ben fel bwa, ac yna disgynodd hi yn drwm ar y gwely i beidio a chyfodi mwy. Yr oedd y llefaru hwn trwy yr arwydd yma, yn annesgrifiadwy, ac nis gallaf ddarlunio ein teimladau ar y pryd. Yr oedd fel morwr wrth adael y tir yn gwneyd arwydd i'w gyfeillion fydd yn sefyll ar y lan. Felly ar y 15fed o Chwefror, yn y flwyddyn 1863, 'Cwympodd y gedrwydden,' ac agorwyd pyrth marwolaeth i Mr. Richard Humphreys i fyned trwyddynt i lawenydd ei Arglwydd. Yr unig wahaniaeth oedd rhyngddo wrth farw ag oedd byd ei oes ydoedd, fod ei hyder yn Nghrist wedi tyfu yn llawn sicrwydd. Bu farw yn y ddeuddegfed flwyddyn a thriugain o'i oedran. Er na chyrhaeddodd ddyddiau blynyddoedd einoes rhai o'i dadau, cafodd fyw digon i weled iachawdwriaeth Duw, ac i fod yn efferyn yn llaw ei Ysbryd i ddwyn eraill i'w gweled.--Allan o Gofiant y Parch. Richard Humphreys.