Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/137

Gwirwyd y dudalen hon

fanwl am rai felly, a rhwng y moddion yn ymweled â hwy, a byddai ei bresenoldeb, ei gydymdeimlad, a'i gynghorion yn foddion gras iddynt. Cofus genyf fy mod gydag ef yn ym weled âg un, a braidd nad oedd y gwr hwnw, oherwydd natur ei afiechyd, yn dweyd yn galed am yr Arglwydd. Ond erfyniai Mr. Jones arno i ymatal, gan ddweyd—"Peidiwch myn'd ddim у ffordd yna, onidê, bydd raid i mi fyn'd allan, nis gallaf ei ddioddef."

Ni welais neb mwy ymostyngar dan law Duw nag ef yn ei gystudd hirfaith. Teimlai fod tragwyddoldeb yn wlad ryfedd a dieithr, ond er y cwbl ' mi wn hyn, meddai, ' y mae yn gartref fy Nhad.* * * * * Y tro diweddaf y bu'm yn ymweled âg ef, gofynodd i mi ei gofio yn garedig iawn at yr eglwys yn Mhennal, yr hyn a wnaed, a derbyniwyd y genadwri gyda theimlad dwys. A chyda theimlad cyffelyb y derbyniwyd ei lythyr rhyfedd a gwerthfawr atom fel eglwys, yr hwn a ddarllenwyd yn gyhoeddus ddwy waith.

Er ceisio dweyd am yr anwyl Mr. Jones, nid oes genyf ond terfynu yn nheimlad y disgybl am y peth hynod ar ddydd y Pentecost, gan ei alw y peth hwn, y dyn, y boneddwr, y gwein idog, y Cristion prydferth." — Allan o Gofiant y Parch. John Foulkes Jones, B.A.

ARAETH YN NGHYNADLEDD CANMLWYDDIANT YR YSGOL SABBOTHOL YN NOLGELLAU, MAI 22AIN, 1885.

(Traddododd Mr. David Rowland yr araeth hon yn olaf o'r siaradwyr yn Eisteddiad cyntaf y Gynhadledd, am ddeg o'r gloch.)

Yr wyf finau yn dymuno datgan fy nghydsyniad â phob peth sydd wedi ei ddweyd. Yr wyf yn debyg iawn i hen Aelod Seneddol yn agos i'ch tref chwi yma, Syr Robert Vaughan. Dywedir mai unwaith y siaradodd erioed yn y Senedd. Yr oedd yn clywed draught yn dyfod ato trwy y ffenestr oedd yn agored o'r tu ol iddo, a gofynodd i rywun ei chau (chwerthin.) Dyna'r unig dro y siaradodd yn y Senedd erioed. Ond yr