Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/142

Gwirwyd y dudalen hon

gymeriad o ugain mlynedd wedi ei wneuthur yn rhywle yn fy oes i; 'rwy'n meddwl mai tri ugain ydwyf, ac nid pedwar ugain."

Yn ystod y flwyddyn neu ddwy olaf, dechreuodd ballu yn ei gerddediad. Ac yn ystod yr haf olaf, yr oedd ei gam yn myn'd yn fyrach, a dechreuai ei gyfeillion sibrwd y naill wrth y llall, fod dyddiau ei bererindod yn nesau at y terfyn. Y nos Sadwrn cyntaf o Hydref, 1893, cafodd bangfa o ddiffyg anadl, a syrthiodd rhai geiriau dros ei enau a awgryment ei fod ef ei hun yn tybio mai rhybudd iddo oedd hyn. Ond gwellhaodd ddigon i fyned i'r capel dranoeth, a bu yno Sabboth ymhen yr wythnos. Yr ail ddydd Llun yn Hydref, yn ol trefniad blaenorol, yr oedd i areithio yn Nghyfarfod Misol Bryncrug, ar Drydydd Jubili y Cyfundeb. Ond nis gallodd fyned i'r cyfarfod hwnw, a theimlai yn ddwys o'r herwydd. Gwelai ei gyfeillion hefyd mai ychydig o or-lafur a allai fynd ag ef i ffordd.

Y Cyfarfod Misol olaf iddo fod ynddo ydoedd yn Aberllyfeni, yr ail wythnos yn mis Awst, 1893. Yr oedd yr hin yn anarferol o boeth, a chan y teimlai yn llesg a diffygiol, gofynodd i'r blaenor yr oedd gofal y trefniadau arno, a wnai ef ei drefnu i gael llety dros y nos yn rhywle yn lled agos. Trefnwyd ef i aros yn Plas, Aberllyfeni. Y bore canlynol datganai yn llawen iawn ei ddiolchgarwch i'r trefnwyr am lety mor gysurus, ac awgrymai mai efe oedd gwr mwyaf urddasol y Cyfarfod Misol hwnw, gan iddynt ei drefnu i fod yn y Plas. Mater ymdrafodaeth y seiat gyhoeddus ydoedd, "Moddion gras ac Ordinhadau yr Efengyl," a siaradodd yntau mor rhagorol ar y mater, fel y mae côf hyfryd am y cyfarfod yn aros eto. Y Cyfarfod Cyhoeddus cyffredinol olaf iddo fod ynddo yn Mhennal oedd, yr un a gynaliwyd yn Ysgoldy y Bwrdd, mewn perthynas i sefydliad yr Ysgol Ddyddiol Ymneillduol yn Aberdyfi. Cynhelid y cyfarfod tua dechreu Hydref. Ni chymer