Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/34

Gwirwyd y dudalen hon

Cafodd William Rowland, a rhai o ieuenctyd eraill Pennal, eu trwytho yn drwyadl yn y Diwygiad mawr y blynyddoedd hyn. Cerddodd y tan trwy wlad a thref, ac ychwanegwyd beunydd at rif y crefyddwyr. Felly yn yr ardal hon. Ail enynwyd hefyd sel yr hen grefyddwyr, a chryfhawyd eu ffydd yn fawr. Byddai llawer o orfoleddu a neidio yn y Diwygiad hwn. Nid oedd Peter Jones yn flaenor yn Mhennal, ond bu ef, a Sian William, ei wraig, yn golofnau o tan yr achos. Bu gorfoledd mawr un tro yn eu ty, yn amser Diwygiad Beddgelert, a chan fod y tân ar lawr, yr oedd gwreichion o'r tân naturiol wedi eu lluchio ar hyd y ty, oherwydd fod y gorfoleddwyr yn neidio mor afreolus, hyd nes y dygwyd y ty a'r preswylwyr i ymylon dinystr. Mawr oedd gofal Sian William gyda'r merched a'r gwragedd, ar ol i'r gorfoledd fyned heibio, yn rhoddi eu hetiau a'u gwisgoedd yn eu lle, ac felly yn mlaen. Cymerai y chwaer hon lawer o boen i wneuthur y pregethwyr yn gysurus; pan y troent i'w thy (yr oedd yn byw yn agos i'r capel) ar ol y dychwelent o Maethlon y Sabbath, ni chaent fyned i'r capel at yr hwyr heb iddi hi dynu pob ysbotyn o lwch a baw oddiar eu hesgidiau. Byddai Peter Jones a Sian William ar flaenau eu traed ar ben y drws, y noson y byddai y blaenoriaid gyda'u gilydd yn gwneuthur cyfrifon y capel ar ddiwedd y flwyddyn, yn disgwyl clywed am lwyddiant yr achos, gan fawr obeithio eu bod wedi cael dau pen y llinyn yn nghyd.

Yr oedd William Rowland, yr Ewythr, yn un o'r rhai oedd yn gorfoleddu ac yn neidio yn y Diwygiad. Yr oedd gwrthddrych y Cofiant hwn yn llygad-dyst o'r pethau hyn. Ac er ei fod yn rhy ieuanc ei hun i ymwneyd a phethau crefydd, diameu ddarfod i awelon y Diwygiad, ynghyd, a'r dadleuon ar bynciau crefydd rhwng ei dad a'i Ewythr, a duwioldeb Peter Jones a Sian William, ac Arthur Evan, y Crydd, y rhai a breswylient gerllaw ty ei dad, adael argraff ddaionus ar ei feddwl. a thueddai yr awyrgylch y troai ynddi y pryd hwn, yn y