Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/38

Gwirwyd y dudalen hon

cadw odfa ganol dydd ddydd gwaith yn Mhennal, ac yn cynal seiat ar ol yr odfa, a'r diwrnod hwnw y cyflwynodd David Rowland ei hun yn aelod o eglwys Dduw gyda'r Methodistiaid. Aeth Owen Rowland ato yn y seiat, gan ei holi am y ddeddf, a Sinai, a'i tharanau, ond ni theimlai fawr o ollyngdod i'w feddwl trwy y dull hwnw o ymddiddan. Ar ei ol, aeth Ebenezer Davies, yr hwn oedd yn ddyn ieuanc hynaws, ato, a gofynai iddo a wyddai of rywbeth am diriondeb yr Arglwydd, ac am ei dosturi, a'i drugaredd faddeuol yn Nghrist. "Hwn yw fy noctor i," meddai yntau wrtho ei hun. Tyner oedd ei natur ef bob amser, ac yr oedd Ebenezer Davies, trwy dynerwch, wedi taro ar y ffordd i fyned at ei deimlad.

Pan y derbyniwyd ef yn gyflawn aelod, yr oedd wedi bod yn y seiat chwe mis. Y noswaith y derbyniwyd ef yn gyflawn aeth at y blaenoriaid o hono ei hun, heb i neb grybwyll dim wrtho, a rhoddodd chwe' swllt, sef swllt y mis, yn y casgliad misol, tuag at gynal y weinidogaeth.

"Y mae Dafydd Rolant wedi dyfod atom ni i'r capel, ac yr ydym yn disgwyl y gwaniff o ddyn da i ni," ebe Peter Jones, wrth ŵr blaenllaw yn yr ardal, perthynol i enwad arall. Gwiriwyd proffwydoliaeth yr hen Gristion, oblegid gwr rhagorol a ddaeth o'r dydd cyntaf yr ymunodd â'r Methodistiaid. Rhoddodd esiampl dda i broffeswyr ieuainc trwy gyfranu at y weinidogaeth cyn bod yn gyflawn aelod; ac yr oedd swllt y mis yr amser hwnw yn swm haelionus. Nid oedd yn cael heddwch i'w feddwl heb gynal dyledswydd deuluaidd yn y teulu. Torodd trwodd i wneuthur hyn eto o hono ei hun, yn ngwyneb cryn dipyn o anhawaderau, o leiaf, heb gael dim cefnogaeth, a rhyw fore dywedodd, "Oni fyddai yn well i ni ddarllen ychydig o adnodau gyda'n gilydd?" A chymerodd y Beibl, a darllenodd. Yn mhen peth amser dywedodd drachefn, "Oni fyddai yn well i ni fyned ychydig ar ein gliniau?" A phob yn dipyn gorchfygodd bob rhwystrau a roddid ar ei ffordd.