Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/61

Gwirwyd y dudalen hon

gydag achos y Gwaredwr, yn enwedig eu caredigrwydd tnag at weision yr Arglwydd, wedi bod yn elfen arbenig tuag at iddynt lwyddo mewn pethau tymhorol.

"Cofus genyf," ebe y diweddar Barch. Griffith William, Talsarnau, yn ei Gofiant i'r Parch. Richard Humphreys, "fy mod yn myned un bore Sabboth, o Gwerniago i Bennal, a Mr. Humphreys yn dyfod gyda mi, ac yn ol ei arfer trodd i mewn at David a Mary Rowland; ac ar ei fynediad i'r ty, dyma y ddau ar eu traed yn barod i weini arno; a thra yr oedd un yn datod ei gôt fawr, yr oedd y llall yn dad fotymu ei overalls; ac ar ol iddo eistedd, dywedais, Y mae y cyfeillion hyn yn ymddangos yn hynod o'r caredig i chwi, Mr. Humphreys.' ' Ydynt,' ebe yntau, fel hyn y maent er pan wyf yn y gymydogaeth, a byddaf yn gofyn i mi fy hun weithiau, am ba hyd y bydd i'w caredigrwydd barhau.' Ond nid oedd un perygl iddo ddarfod, gan fod y ddau yn cael y fath fwynhad yn ei groesawu."

Gofynodd Mr, Humphreys un diwrnod wedi dyfod i'r ty, "Sut mas eich temper heddyw, Mari bach?"

"Gwelais hi yn well lawer gwaith," ebe Dafydd.

"Dim anair am Mair i mi,"

ebe yntau.

Bu eu ty dros ddeugain mlynedd o amser yn llety croesawgar i weinidogion y Gair ac i fforddolion. Llety llon a llawen y cafodd nifer mawr ef, o'r rhai sydd wedi croesi at y mwyarif, ac hefyd o'r rhai sydd yn aros byd yr awr hon. Y blynyddoedd diweddaf, wedi iddynt ymneillduo i fyw i Llwynteg, byddai eu ty o fis Mai i fis Medi, yn fynych yn haner llawn o ymwelwyr, sef perthynasau a ffryndiau. Lletyai gweinidog yno dros y Sabboth y tymor hwn unwaith, pryd yr oedd yno amryw o ymwelwyr, a gwnaeth y gweinidog y sylw wrth D. Rolant, "Dear me, mae y ty yma yn llawn iawn; ydych chwi yn cadw Hotel yma?" "Nac ydym ni," atebai yntau, "nac ydym ni; rhad rhoddion sydd yma." "O," meddai y gweinidog drachefn,