Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/64

Gwirwyd y dudalen hon

Mae gwynfyd yn nghyraedd pob dyn yn y byd
A geisio yn gywir ei gael;
Does neb yn rhy isel i enill ei bryd,
Na bwthyn rhy gyfyng a gwael.
Chwibenwch a chanwch fel Dafydd,
Canmolwch a charwch fel Mary;
A byddwch i gyd yn ddedwydd eich byd,
Ac anwyl fel Dafydd a Mary.

R. J. DERFEL.