Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/68

Gwirwyd y dudalen hon

chwi, Mr. Evans?" ebe Dafydd Rolant, "I sheets oerion wrth fyn'd i'r gwely maent yn oerion anferth wrth fyn'd iddynt; ond wedi bod ynddynt am dipyn o amser, nid oes dim byd sydd gynhesach na nhw."

"Wel, Dafydd, Dafydd," ebe yr hen bregethwr, "nid oes neb tebyg i chwi."

Traddodai y Parch. Dr. Harries Jones, Trefecca, ddarlith un noson waith yn Mhennal. Testyn y ddarlith oedd, "Hanes Crist." Ar gais y cyfeillion yn Mhennal, yr oedd y Parch. J. Foulkes—Jones, B.A., wedi dyfod o Machynlleth i fod yn gadeirydd y cyfarfod. Ac wrth wneuthur sylwadau ar y diwedd, dywedai David Rowland,—"Y mae pob peth yn ffitio i'r dim yma heno. Cawsom ddarlith dda iawn ar hanes Iesu Grist, y dyn mwyaf a'r dyn goreu fu yn y byd erioed; a chawsom i lenwi y gadair ac i lywyddu y cyfarfod, y dyn tebycaf i Iesu Grist o bawb a welais i erioed."

Ar darawiad y funyd fel hyn y ceid yn fynych y sylwadau goreu ganddo.

Pan oedd ef a'i briod yn preswylio yn eu ty eu hunain, yr ochr Orllewinol i'r pentref, gwelid trwy ffenestr y gegin i ganol y pentref. Ceir golwg trwy yr un ffenestr hefyd ar Efail gôf, ac ar y gôf yn gweithio ei grefft. Yr oedd ymwelwyr a'r eglwysi—gweinidog a blaenor o Ffestiniog—ar ymweliad unwaith ag eglwysi y dosbarth hwn, yn ol penodiad y Cyfarfod Misol. Wedi gorphen eu gwaith yn eglwysi Corris, daethant i Bennal. Ac ar ol eistedd i lawr yn y ty, a chael ychydig o hamdden, meddai Dafydd Rolant wrthynt, "Ydych chwi eich dau yn ei medru hi gyda'r gwaith o ymweled ag eglwysi y wlad? Mi fyddaf fi yn gweled trwy y ffenestr yma y gôf yn pedoli'r ceffylau. Mae'r gôf yn ei medru hi gyda'r ceffylau a'r pedoli. Mae o yn taro ei law i ddechreu ar gefn y ceffyl, prattio tipyn arno, ac wedi hyny tyna hi i lawr yn ara bach ar hyd ei goes o, a phob yn dipyn fe ddaw o at droed y ceffyl. Pe .