Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/88

Gwirwyd y dudalen hon

yr haul i mewn trwy y ffenestri i'r ystafelloedd, ac yn yr haf cwyd yr haul yn ddigon uchel, fel na bydd ei wres yn taro ond ar y tu allan yn unig. Mae y ffrynt o flaen y ty yn lle agored, wedi ei amgylchu â choed afalau, laurels, ac ever-greens, ac yn yr haf addurnir y lle gyda llawer o amrywiaeth o flodau a rhosynau. Ar y llaw aswy, yn ymyl, y mae gardd helaeth a thoreithiog. Prynwyd y lle yn ddiweddar gan Mrs. Rowland, yn feddiant iddi ei hun. Mae y darlun o'r ty sydd i'w weled ynglyn â'r benod hon wedi ei wneuthur oddiwrth photo a dynwyd tua'r flwyddyn 1890, gan Mr. John Thomas, Liverpool.

FFYNHONELL EI GYSURON.

Tynodd David Rowland, yn mlynyddoedd olaf ei oes, lawer o ddifyrwch a chysuron iddo ei hun o'r lle hwn. Gwnaeth ei ragflaenwyr a fu yn byw yn y ty amryw welliantau ynddo. Gwnaeth yntau lawer o welliantau drachefn. Treuliodd y tair blynedd ar ddeg olaf yma yn nodedig o ddedwydd, ni fu neb erioed yn fwy boddlongar, ac yn mwynhau bywyd yn fwy trwyadl. Proffwydai rhai y byddai ei gysuron wedi darfod pan roddai i fyny waith a gofalon y byd—nas gallai un fel efe, oedd wedi arfer â diwydrwydd ar hyd ei oes ddim dygymod â bywyd o lonyddwch a thawelwch. Ond nid oedd y rhithyn lleiaf o sail i'r cyfryw broffwydoliaeth. Erioed ni welwyd neb yn fwy yn ei elfen, mor gynted ag y daeth yn rhydd oddiwrth y byd. Medrai ddifyru ei hun trwy amrywiol ffyrdd. Ymyfrydai mewn gwneuthur cymwynasau i'w gymydogion. Elai, fel rheol, i roddi tro trwy y pentref bob dydd, a byddai ganddo air siriol i'w ddweyd wrth bawb a gyfarfyddai, siaradai am yr hen amser gyda phobl mewn oed, a rhoddai gynghorion parod i'r rhai ieuainc. Troai i mewn un diwrnod i dy chwaer oedranus, yr hon a gwynai wrtho ei bod yn methu dyfod i'r moddion. "Wel, hon a hon bach," meddai yntau, "nid oes genych chwi a minau ddim i'w wneyd bellach ond byw ar yr adlodd."