Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/91

Gwirwyd y dudalen hon

yno, nid oedd yno ond Dafydd, ys dywedai hithau,—yn chwerthin yn galonog.

"Pan yr adroddai y stori dranoeth ar giniaw gyda hwyl, dywedais wrtho fod Mr. Gladstone ac yntau yn bur debyg i'w gilydd yn ffurf eu penau. (Mae'n ddiau fod llawer heblaw fi wedi sylwi ar y ffaith hon). Eitha gwir,' meddai, ond mae'r awdurdodau yn methu penderfynu pa un ai fi sydd yn debyg i Gladstone ai Gladstone sydd yn debyg i mi.'

"Adroddai i mi lawer o bethau dyddorol am deilyngdod anghymarol ei wraig, ei deall cryf, a'i gwybodaeth helaeth, ac ychwanegai gyda gwên awgrymiadol, 'ei hamynedd mawr.' Aeth dros hanes ei ddyfodiad at grefydd yn ddyn ieuanc pan oedd y diweddar Barch. Ebenezer Davies ar daith trwy y wlad. Yr oedd ganddo ystór lawn o hanesion am yr hen bregethwyr, ac nid anghofiai bwysleisio ar y ffaith ei fod ef yr un oed a'r Corff, ac yn ei adnabod yn dda. Nis gallwn lai na synu at ieuengrwydd ei ysbryd. 'Byddaf yn methu deall,' meddai, 'pa'm mae rhai pobl dda y dyddiau hyn yn byw yn y gorphenol. Yr oedd hwnw yn dda, ac yn dda iawn, ond er hyny, ymlaen mae'r pethau goreu yn y byd hwn a'r byd a ddaw.—

'Ymlaen mae'r wobr, ymlaen mae'r goron,
Ymlaen mae Mhriod hawddgar glân.'

"Yr oedd yn siarad am y ddwy Drysorfa yn y capel nos Sul. Ni bydd byth anghydwelediad," meddai, 'rhyngof fi a'r wraig acw; ond pan ddaw y Drysorfa i fewn, mae'n rhaid addef y bydd acw rywbeth pur debyg i hyny. Bydd hi yn gafael mewn un pen, a minau yn y pen arall, a'i thori hi y buasem ni, onibai i'r boneddigeiddrwydd sydd yn fy nodweddu i yn fy arwain i roi'r flaenoriaeth bob amser iddi hi; ac mi ellwch gredu fod llyfr ag yr ydan ni mor awyddus am ei ddarllen yn werth i chwithau ei gael.' Buasai yn dda genyf allu galw i gof lu o sylwadau craff wnaed ganddo yn ystod y dydd