Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/10

Gwirwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENYDD

Pan ofynnodd Meistri Hughes a'i Fab, Gwrecsam, i mi ysgrifennu ychydig o hanes Daniel Owen, i ymddangos ynglŷn â'r Argraffiad Goffadwriaethol a fwriadent gyhoeddi, nis gallwn wrthod. Teimlwn y dylai rhai o brif ffeithiau bywyd awdur Rhys Lewis gael eu casglu at ei gilydd tra yr oedd ei hen gyfeillion yn yr Wyddgrug eto yn fyw - y rhai a'i hadwaenant orau, ac a'i hoffent fwyaf. Nid oedd gennyf ond casglu yr hanes a'i ddodi wrth eu gilydd. Teimlwn, fel llawer o'i gyfeillion yn y dref, hiraeth cywir am dano, ac awyddfryd am weled ychydig o hanes ei fywyd yn ymddangos. Daeth cyfleustra i dalu'r warogaeth hon i'n hanwyl gyfaill ynglŷn â'r cyhoeddiad hwn o'i Weithiau; ac er nad oeddwn yn teimlo fod ynof gymhwyster neilltuol i'r gwaith, a bod lliaws o oruchwylion eraill ar y pryd yn galw am fy sylw, eto, teimlwn fod rhwymedigaeth arnaf i dalu y deyrnged hon o barch i un oedd wedi llenwi lle mor fawr yn mywyd yr Wyddgrug, ac yn wir, yn llenyddiaeth Cymru.

Yr oedd un cymhelliad arall yn peri i mi afael yn y gwaith, sef awyddfryd gweled y gof-golofn y bwriedir ei gosod i fynnu yn ein tref wedi ei chwblhau a thalu am dani. Pan gofiwn yr hyfrydwch a'r budd a dderbyniwyd wrth ddarllen gweithiau Daniel Owen gan y Cymry ymhob rhan o'r byd, gallesid disgwyl i'r deyrnged hon i'w goffadwriaeth gael ei thalu yn ddiymdroi; ac er bod oddeutu £300 wedi eu casglu, y mae agen eto am oddeutu £100 yn ychwaneg er cwblhau y gwaith, a thalu am osod y cerflun i fynu. Y mae yn chwith genym feddwl fod ysgrifennydd gweithgar y mudiad, Mr Llywelyn Eaton, wedi ei gymryd ymaith cyn gweled