Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/104

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Yr oedd ymddangosiad novel mewn cylchgrawn crefyddol fel y Drysorfa yn newyddbeth yng Nghymru. Y mae yn wir fod y golygydd ei hun wedi portreadu amryw o hen gymeriadau a adwaenai pan yn llanc yn sir Feirionydd dan y pennawd "Y tri brawd a'u teuluoedd," eto nid ffugchwedl ydoedd.

Dyma fel y cyfeiria y golygydd at y mater hwn yn ei Ragymadrodd i'r Dreflan, pan ei cyhoeddwyd yn llyfr ar wahân yn y flwyddyn 1881; cyhoeddedig gan Feistri P. M. Evans a'i Fab, Treffynnon: "Dichon fod rhyw ychydig nifer o bobl dda yn meithrin gwrthwynebiad ddwyn allan wirioneddau crefyddol mewn adroddiadau neu storïau fel y ceir yma. Ond os rhydd y cyfryw ddarlleniad trwyadl i'r Dreflan, hwy a welant nad oes ynddi ddim yn annaturiol neu yn anghymeradwy, megis y mae mewn llawer o ffugchwedlau; ac yn y llyfr hwn hefyd cyflwynir lliaws o wersi daionus i rai nad ânt i edrych am danynt mewn pregethau, traethodau, ac esboniadau."

Yn ddilynol cawn ef yn dechrau ar Rhys Lewis. Gwnaeth hyn, meddai, am na adawai y golygydd lonydd iddo. Cymerodd y ffugchwedl hon dair blynedd i ymddangos.