Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/106

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ganddo mae yn amheus hefyd a oedd yn bosibl rhoddi cyfieithiad da o'r fath lyf r a Rhys Lewis. Y mae yn sicr, pa fodd bynnag, na chafwyd un yn y cyfieithiad a ymddangosodd yn y flwyddyn 1888.

Cyhoeddwyd gan Mr. John Lloyd Morris, yr Wyddgrug, gasgliad o'r amryw ddarnau o'i waith, yr hwn a elwid y Siswrn, a chyhoeddwyd ail-argraffiad ymhen amser. Yn y flwyddyn 1890, dechreuodd ysgrifennu Enoc Huws i'r Cymro. Diau mai i daerni a symbyliad golygydd y Cymro y dylid priodoli ymddangosiad Enoc Hughes. Ar ôl iddi oll ymddangos drwy y Cymro, prynwyd y copyright gan Feistri Hughes a'i Fab.

Ymddangosodd cyfieithiad da o Enoc Huws yn Wades, gan yr Anrhydeddus Claud Tivian, dan olygiaeth O. M. Edwards, M.A., Rhydychen.

Ar ôl gorffen Enoc Hughes gawn ef yn dechrau ar unwaith ar ysgrifennu Gwen Thomas i'r Cymro,—copyright o'r gwaith hwn a brynwyd drachefn gan Feistri Hughes a'i Fab. Ysgrifennai storïau bychain i'r Cymro yn lled fynych, y rhai a gyhoeddwyd ganddo yn llyfr, dan yr enw Straeon y Pentan. Gwelir oddi wrth yr uchod mai yn rhannau misol neu wythnosol yr