Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/109

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

neilltuol cyn y rhoddir bri arbennig i'r ffug-chwedl. Gellir dweud mai yr hyn yw arluniaeth mewn celf, dyna yw y ffugchwedl ddisgrifiadol mewn llenyddiaeth. Rhaid i genedl ddod yn ymwybodol o honni ei hun cyn y gall y math hwn o lenyddiaeth flaguro. Diau mai un o nodweddion amlycaf ein dyddiau ni yw hunanymwybyddiaeth. Y mae dynion yn fyw iawn iddynt eu hunain; ac yn chwilfrydig i wybod am eu gilydd. Y mae yn sicr hefyd fod yna fwy o dynerwch a chydymdeimlad ' yng ngwahanol gylchoedd cymdeithas. Diau fod yr amser yr ymddangosodd Daniel Owen yn fanteisiol i'r dull hwn o ysgrifennu. Nid oedd neb wedi ceisio disgrifio bywyd Cymru, yn enwedig bywyd crefyddol ein gwlad, oddieithr drwy fywgraffiadau, a rhaid cydnabod mai ychydig iawn o Gofiantau gwir lwyddiannus oedd wedi ymddangos cyn ymddangosiad " Hunangofiant Gweinidog Bethel." Credwn y buasai yn amhosibl i'w ysgrifeniadau ymddangos lawer cyn hyn. Y mae yn sicr, pa fodd bynnag, na fuasai ysgrifeniadau o'r natur yma yn cael derbyniad genhedlaeth yn ôl. Yn y deffroad mawr crefyddol yn y ganrif ddiweddaf, ac yn wir yn y blynyddoedd dilynol pan yr oedd y diwygiad