Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/131

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

wneud hynny, prin y gellir dweud ei fod yn llwyddiannus iawn yn ei ymgais; nid oedd yn feistr ar grynhoi neu gau i fynnu ei storïau. Prin y gellir teimlo fod y diddordeb yn y darllenydd yn myned ar gynnydd fel yr eir ymlaen; yn wir, teimlir i raddau yn siomedig gyda therfyniad amryw o'i nofelau, megis y Dreflan a Rhys Lewis, ac efallai mai camgymeriad oedd iddo geisio eu diweddu ar gynllun Seisnig. Fel y dywed Proff. W. L. Jones, Bangor, yn ei erthygl ar Daniel Owen, yn yr ailargraffiad o'r Gwyddoniadur Cymreig, Cyf. X. td. 740 B.:—"Ni saif Rhys Lewis, mwy na'r Pickwick Papers, yn ngwyneb beirniadaeth y rhai sydd yn barnu nofel fel cyfanwaith, yn hytrach nag fel cyfres o ddarluniau, neu o ddigwyddiadau anghysylltiol. Nid ydyw y cudd amcan (plot) ond egwan, ac nid ydyw cydbwysedd a chymesuredd y gwahanol rannau o'r llyfr yr hyn a ddisgwyliwn, ac a gawn, yng nghynhyrchion y prif chwedleuwyr Seisnig. Ond nid fel crefftwr llenyddol, yn gweithio allan gynlluniau cywrain yn ei nofelau, y dylid barnu Daniel Owen. Ni ddeil gymhariaeth am foment i'r meistriaid y gelfyddyd o chwedleua - y rhai sydd yn ymdrechu am ffurf, am fesur, am