Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/134

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

fod wrth roddi enw ar geiliog Thomas Bartley wedi gwneud defnydd o enw ci bychan ei letywraig yn y Bala, o'r hwn yr oedd yn dra hoff, felly, gwelir argraff ei atgofion ar y rhannau allanol a mwyaf arwynebol o'i waith.

Ymofynnwn ymhellach. Beth fydd dylanwad cyffredinol ei weithiau? Cytuna pawb fod yna elfen ddyddorus yn ei weithiau; yr oedd llenyddiaeth Gymreig yn dra amddifad o'r elfen hon; yr oedd hanes y genedl, a'r dwyster teimlad a gynhyrchwyd gan y Diwygiad Methodistaidd, yn cau allan lenyddiaeth o natur fywiog a diddores. Clywsom y Proff. O. M. Edwards yn dywedyd fod caneuon y beirdd cyn y Diwygiad hwn yn gyfryw nas gellid byth eu cyhoeddi. Ysgubwyd ymaith llenyddiaeth amhur diwedd yr eilfed ganrif ar bymtheg a dechrau y ddeunawfed ganrif gan lifeiriant y Diwygiad. Llenyddiaeth grefyddol, neu o'r hyn lleiaf, llenyddiaeth yn dwyn delw ysbryd dwys a difrifol y Diwygiad Methodistaidd, oedd o fewn cyrraedd darllenwyr Cymreig; ychydig o'r elfen hoenus a chwareus a geid yng ngweithiau ysgrifenwyr Cymreig. Credwn i Daniel Owen gyfarfod â'r angen hwn, a thrwy hynny atal, i fesur, wrthweithiad cryf yn erbyn bywyd crefyddol Cymru,