Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/141

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

cyffwrdd amlaf a chymeriadau crefyddol, y mae yn cydnabod gwirionedd crefydd ysbrydol mewn modd na cheir ond anfynych mewn llyfran o'r nodwedd hon. Cydnabyddai yn ddiamwys werth crefydd bersonol yn ei holl weithiau. Yr ydym yn teimlo fod yr awdur mewn cydymdeimlad trwyadl â Mari Lewis pan y mae yn son am y " tro mawr," am ras yn y galon;" ac yn Gwen Tomos y mae yn rhoddi yng ngenau Gwen yr athrawiaeth efengylaidd yn ei phlaendra mwyaf wrth ymddiddan â'i brawd Harri; a theimlwn yn berffaith sicr mai gwella a llesoli ei gydgenedl ydoedd nod pennaf yr awdur. Yn ei Ragymadrodd i'r argraffiad cyntaf o Rhys Lewis, dywed, - "Nid i'r doeth a'r deallus yr ysgrifennais, ond i'r dyn cyffredin; os oes rhy w rinwedd yn y llyfr, Cymreigrwydd ei gymeriadau ydyw hwnnw, a'r ffaith nad ydyw yn ddyledus am ei ddefnyddiau i estroniaid. Os oes ynddo rywbeth a'i duedd heb fod i adeiladu, yn gystal â difyrru y darllenydd, ni phâr hynny fwy o ofid i neb nag i'r awdur;" a'r dymuniad i Wneuthur lles a barodd iddo, yn ei holl weithiau, ymosod; yn erbyn pob math o ffug a rhodres. Yr oedd yn casáu â'i holl enaid pob ymddangosiad twyllodrus, megis i