Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/18

Gwirwyd y dudalen hon

bynnag, y daeth danynt ym moreu ei hoes, oblegid fe'i clywyd yn ymffrostio yn fynych ei bod wedi cael y fraint o adrodd pennod i Charles o'r Bala fwy nag unwaith pan yn lled ieuangc. Gwelwn felly yn hanes mam Daniel Owen gyd-gyfarfyddiad y ddwy ffrwd o ddylanwad a lifai drwy rannau o Ogledd Cymru oddeutu dechrau y ganrif hon. Dywed ei mab fod gan ei fam uwch meddwl o Charles o'r Bala na neb arall. Oblegid erbyn iddo ef ddod yn ddigon hen i sylwi, yr oedd Sarah Owen wedi cyfarfod â "throion chwith" a diau ei bod yn profi'r Ysgrythurau a ddysgodd, ac a adroddodd i Mr Charles, yn fwy o gysur ac o gynhaliad i'w meddwl na dim arall. Y mae ei mab wedi rhoddi desgrifiad lled fyw o'i fam yn y braslun y cyfeiriwyd ato uchod. Dyma fel y dywed, - "Dynes fechan oedd fy mam, ond yr oedd ryw ddefnydd anghyffredin ynddi. I ddangos y defnydd yr oedd fy mam wedi ei wneud o hono, yr wyf yn adrodd i chwi yr hanesyn hwn—gallwn adrodd eraill lawn mor rhyfedd: Cerddodd o Resycae i'r Wyddgrug â phlentyn ar ei braich. Cynnorthwyodd fy nhaid a fy nain i gorddi wedi cyrraedd yr Wyddgrug, yna cerddodd i Gaerllion a'r plentyn