Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/183

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond buan y gwelsant eu cyfeiliornad. Pan anwyd yr ail fab, ni edrychent ar hwnw fel cynnysgaeth, ond gwagedd! diddymdra! Pa siomiant, pa dristwch, pa ing a deimlasant rhwng y ddau enedigaeth sydd ddirgelwch i ni; ond y mae yr enwau a roisant ar eu bechgyn yn agor cil drws ystafell eu profiad, i ni allu gweled ychydig o'i chwerwder. Y peth nesaf yn hanes y ddau frawd ydyw yr orchwyliaeth a ddewisasant. Ymgymerodd Cain â llafurio y ddaear, ac Abel â bugeilio defaid. Yna fe'n hysbysir am eu crefydd, sef bod y ddau yn addoli Duw trwy offrymu. Mae lle i feddwl iddynt hwy, neu eu tad Adda, gael dadguddiad am y dull a'r modd yr oeddynt i addoli, ac hefyd gyfarwyddyd am ryw amser penodol i gyflwyno eu haddoliad; oblegid y mae esbonwyr dysgedig yn dyweyd am y geiriau, "Wedi talm o ddyddiau," yr adeg yr oedd Cain ac Abel yn cydaddoli, y dylid eu cyfieithu yn "ddiwedd y dyddiau," neu "y dydd olaf," sef, fel y tybir, y Sabboth; fel hyn y mae pob lle i feddwl fod Cain ac Abel yn gosod rhyw arbenigrwydd ar y seithfed dydd i addoli arno, rhagor rhyw ddiwrnod arall. Cain a ddygodd o ffrwyth y ddaear offrwm i'r Arglwydd, ac Abel o