Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/191

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arglwydd ddangos ei gymeradwyaeth i Abel, a'i Anghymeradwyaeth i Cain. Wrth weled y gymeradwyaeth a gafodd Abel dyma yr archelyn, cenfigen, yn cymeryd meddiant o orsedd calon Cain. Nid am fod Cain yn maelio cymaint yn y gymeradwyaeth ei hun; oblegid buasai yn hawdd iddo ei chael, pe buasai yn ei cheisio yn briodol; ond y ffaith fod ei frawd wedi cael yr oruchafiaeth arno a'i brathodd yn ei galon. O genfigen, pwy a draetha dy oes di? O na buasit farw gyda Chain! Fe ddarfu i'r genfigen yna estyn ei gwraidd trwy ei gyfansoddiad, nes o'r diwedd ffurfio yn ddrychfeddwl—yn idea, ïe, y drychfeddwl arswydus i ladd ei frawd; arswydus iddo ef ei hun ar y cyntaf, ni a gredwn, a'r hwn a ymlidiai efe o’i feddwl gyda dirmyg. Ond fe ddeuai y drychleddwl i'w galon drachefn a thrachefn, nes o'r diwedd fyned yn llettywr cyson yn ei fynwes—yn ei ddilyn pan fyddai gyda'i orchwyliaeth yn y maes, yn ei gadw yn effro am oriau yn y nos, yn ei gynhyrfu yn ei freuddwydion, ac yn gydymaith gwastadol iddo pan ddeffröai yn y bore, fel ellyll du, hagr, ac aflan, nes o'r diwedd ffurfio yn benderfyniad cadarn i ladd ei frawd y cyfleusdra cyntaf a gaffai! Nid ydyw yn ymddangos fod y