awdur y Noe Bres, ac eraill, casglwyd cannoedd o bunnau i'r gweddwon a'r rhai niweidiwyd yn namwain Gwaith yr Argoed. Rhoddwyd yr arian ym manc Treffynnon, ac yn ol y trefniadau, derbyniasai fy mam, fel eraill, 14/- yr wythnos hyd nes y buaswn i — y plentyn ieuangaf — yn bedair-ar-ddeg oed. Ond och! Ymhen ychydig wythnosau torrodd y banc a chollwyd yr holl arian. Brwydr galed a fu hi wedyn ar fy mam i fagu ei phlant. Ni feiddiaf ddisgrifio i chwi fy mhrofiad, wedi i mi ddyfod i ddeall pethau — y cyfyngder a'r tlodi — mwyaf a feddyliaf am dano, mwyaf oll yr edmygaf ddewrder, ffydd, ac ysbryd di-ildio fy mam; ond beth yr ydwyf yn son, mi a geisiais bortreadu ychydig o'i phrofedigaethau yn Mari Lewis — mam Rhys Lewis — ond fy mod wedi ymatal rhag desgrifio ambell gyfyngder."
Am y gweddill o'r plant. Nid oes dim i'w ddweud am ei chwiorydd. Arosodd un chwaer gyda ei mam, a chyda ei brawd ar ol hyny hyd ei marwolaeth. Ond dylid gwneud crybwylliad arbennig am ei frawd hynaf, ac erbyn hyn ei unig frawd. Wele'r disgrifiad a gawsom o honno, — "Yr oedd Dafydd Owen yn meddu corph hardd, ac wedi ei ddonio â meddwl bywiog a chyflym, yn llawn o nwyfiant chwarae. Darllenodd lawer