Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymreig, eto Sais uniaith ydoedd. Credid yn lled gyffredinol, y pryd hwnw, mai mantais arbenig i blant Cymreig ydoedd cael eu dysgu gan un na fedrai Gymraeg. Yr oedd y gŵr hwn, pa fodd bynnag, yn un tra llwyddiannus fel ysgol-feistr. Nodweddid ef yn bennaf gan fanylder, ac er na ragorodd Daniel Owen mewn dysgu, eto nis gellir amheu i'r addysg a dderbyniodd adael ei hol arno, yn enwedig ar ei syniadau am y dull goreu o gyfranu addysg, oblegid yr oedd ynddo rai elfenau nodedig fel athraw; ac y mae yn ffaith fod yna liaws o rai a dderbyniant addysg y pryd hwnw yn yr Ysgol Frytanaidd wedi d'od i amlygrwydd — ac yn ddynion a gydnabyddid gan bawb fel gwŷr o allu, megis y diweddar Barchn. Robert Davies, Amwythig, W. Hinton Jones o'r un lle, y Parch. David Jones, Gweinidog yr Annibynwyr yn Sleaford, swydd Lincoln.

Ei Brentisiaeth.

Pan yn ddeuddeg oed, gosodwyd ef yn egwyddorwas teiliwr gyda Mr John Angell Jones. Telerau ei brentisiaeth oeddynt — ei fod i weithio heb dâl am flwyddyn; ond byddai ef ag egwyddorwas arall — i'r hwn yr ydym yn ddyledus am