Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi cyfeirio at garedigrwydd ei frawd hynaf Dafydd tuag ato, a diamheu fod atgofion am yr hyn a wnaeth yn lliwio desgrifiad y Nofelydd o "Bob" yn Rhys Lewis. Cyn myned i'r Athrofa, gwnaed cytundeb rhwng y ddau frawd, yn ol yr hwn yr oedd Dafydd i ofalu am eu mam a'u chwaer Leah - yr hon oedd yn wanaidd ei hiechyd — hyd nes y byddai Daniel wedi gorphen ei addysg yn yr Athrofa; ond ychydig cyn gwyliau y Nadolig, 1867, derbyniodd Daniel lythyr oddi wrth ei frawd yn ei hysbysu ei fod wedi priodi, ac wedi gwneyd cartref iddo ei hun. Parodd hyn i'w frawd ieuangach benderfynu mai ei ddyletswydd ydoedd d'od adref a chynnal ei fam a'i chwaer rhag myned i ymofyn am elusen blwyfol. Ni fynegodd ei resymau dros ei ymadawiad i Dr. Edwards nag i neb o'i gyfeillion. Yr eglurhad a roddir am ei ddistawrwydd ar y pwynt hwn ydyw annibyniaeth ei ysbryd, ynghyd ag annhueddrwydd i ddweyd ei gŵyn, nac i dderbyn cymhorth gan eraill. Ymhen blynyddoedd ar ol hyn y daeth Dr. Edwards i wybod y gwir reswm am ei ymadawiad cyn gorphen ei dymhor yn y Bala. Nis gellir llai na gofidio, ar un golwg, na buasai wedi egluro yr holl amgylchiadau i'r Prif-athraw. Pa fodd bynnag