Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

guddiedig." Y gyntaf o'r pregethau a ymddangosodd yn Offrymau Neillduaeth. Yn ystod y blynyddoedd hyn, bu yn dra gwasanaethgar gyda'r achos yn yr Wyddgrug. Cymmerai ran amlwg iawn yng nghyfarfodydd y Nadolig; yn wir, daeth plyg newydd i'r golwg yn ei ddawn wrth areithio yn y cyfarfodydd hyn na chanfyddwyd ef yn ei bregethau. Gollyngai y ffrwyn yn rhydd i'w arabedd, a mynych y gwelwyd ef am chwarter awr yn ymollwng i draethu y pethau mwyaf digrifol a doniol, a'r rhai hyny wedi eu cymysgu â llawer iawn o addysg a moes-wersi buddiol, nes y byddai y dorf fawr wedi ei gwefreiddio drwyddi. Wele rai o'i destunau, - "Bethma," "Manteision tlodi," "Siarad â Siaradwyr," "Meibion a Merched," "Y Difyr a'r Da." Ymddangosodd ei sylwadau ar y testunau uchod yn y Siswrn, a gyhoeddwyd mewn blynyddoedd diweddar gan Mr J. Lloyd Morris, o'r dref hon. Yn y blynyddoedd hyn bu yn Holwyddorwr yr Ysgolion Sabbothol, yn Nosbarth yr Wyddgrug, am y tymor o dair blynedd.

Yn ystod y blynyddoedd ar ol ei ddychweliad o'r Bala, pan yn dilyn ei alwedigaeth fel teiliwr, daeth yn dra hyddysg mewn llenyddiaeth ffug-chwedleuol. Byddai gweithiau