Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/72

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hefyd bregeth angladdol iddo yn addoldy New street - lle yr arferai addoli- gan y gweinidog, oddi ar y testun Psalm xlix 1-4.

Wele y Beddargraff ar y garreg ddiaddurn, lle y gorwedd ei weddillion marwol, y fwyaf syml ei hargraff o fewn y fynwent : —

Yma
Y
Gorwedd gweddillion
DAFYDD OWEN
Adeiladydd, Wyddgrug
Yr hwn a fu farw Chwefror 4ydd, 1880,
Yn 53 oed.
Hefyd
SARAH OWEN
Awst 14eg,1881
Yn 85 oed

"Dibenodd 'nawr dy boenau— dy gyfall
Da gefaist yn angeu.
Daw dwthwn y doi dithau
Pwy ŵyr! wedi llwyr wellhau."

A
LEAH
Mawrth 3ydd, 1890
67 mlwydd oed.
Hefyd
DANIEL OWEN
Yr hwn a fu farw Hydref 22ain, 1895
"Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith? Dangosed
trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn
mwyneidd-dra doethineb."