Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/76

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ADGOFION AM DANIEL OWEN

(Gan Mr John Morgan (Rambler), yr Wyddgrug.)

YR wyf yn cofio'n dda am y tro cyntaf y deuais i gyffyrddiad â fy nghyfaill Daniel Owen, sef mewn cyfarfod Pernny Readings a gynhaliwyd yn y British School-(yn awr y Board School), diwedd y flwyddyn 1869, union ddeg mlynedd ar hugain yn ôl. Yr oeddem ill dau ar y rhaglen i gymryd ein rhan yn y cyfarfod, myfi gydag adroddiad, ac yntau gydag anerchiad. Yr oedd fy adroddiad i yn un ddigrifol, a derbyniais lawer o gymeradwyaeth er mor ynfyted y peth a ddwedais; derbyniodd efe lai o gymeradwyaeth, ond mwy, ynghyd â gwell gwrandawiad. Testun ei anerchiad y noson honno ydoedd, - "The Sisters, the Misses Comedy and Tragedy, their nature and parts. Dangosai mai swydd y ddwy ydoedd addysgu, un trwy lefain "gochel!" ond, a mynd ymlaen y