Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/91

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

y Brenin Mawr. Hynny oedd yn ddynoliaeth, ac felly, hynny oedd i'w ganmol, a chamgymeriad oedd y peth gwrthwyneb, pa faint bynnag o ganiatâd, o awdurdod, neu o grefydd ymddangosiadol oedd y tu cefn iddo. Ni fynnai osod ei hun mewn mould "gelfyddydol," ac ni fynnai i arall wasgu cyd-ddyn iddi. Daliai mai'r ffurf orau ar ddyn oedd y dyn ei hun, ac mai gwaith crefydd oedd ei berffeithio. Y dwyfoldeb a ddyrchefid ganddo oedd yr un a ddangosai ei hun mewn naturioldeb. Y naturiol, yn ei farn ef, oedd sianel y dwyfol ym myd dyn. Ac felly, y mae Mr. Pugh, Rhys Lewis, yn uwch ganddo na dynion mwy galluog, ac un fel Wil Bryan ddiras yn fwy gobeithiol yn ei olwg na llawer un sydd yn ymddangos heb bechod o gwbl

Ond hanner sylw yw hyn. Er iddo synied yn llawn mor glir, a meddu gallu llawn mor eithriadol i wneud ei eiriau megis yn wydr pur,—yn nesaf peth at feddwl ei hun, ni fuasai yn agos o fod yr hyn ydoedd oni buasai ei fod yn gweled ac yn teimlo cymaint. Yr oedd yn fyw i bopeth bron, oddigerth manylion mesur a rhif. Ond os na fedrai fesur tir, gallai ehedeg drwy'r ffurfafen drosto, a chanu gwych gân na fedr mesuroniaeth byth mo'i chynhyrchu. Os nad