wlad. Anghyfiawnder cymdeithasol, athrylith farddonol, teilyngdod awdwyr, cerddoriaeth—byth a hefyd torrai y gweithdy allan yn un oriel o felodaidd gwirioneddol—gwleidyddiaeth, ac hefyd diwinyddiaeth—byddai ymwneud llawn o ynni â hwynt oll. Swyn neillduol y cwbl oedd y caech yno siarad oedd yn boeth o'r galon, heb ddim celu anawsterau, heb ddim arbed yr hyn a fernid yn an-reswm, na dim o driniaeth y menig kid. Ymgyrch am fywyd ydoedd. Yr oedd ei brif nodwedd, ymdafliad at wirionedd, yn cael y bwyd a garai yno am flynyddoedd. Ond nid athrylith, nac eangder teimlad, a roddant gyfrif am agosrwydd cyson at y gwir. Pa fodd y bu i Daniel Owen, drwy oes o agos i drigain mlynedd, gadw y cariad hwn at wirionedd, a'r gallu hwn i'w weled ? Nid oes ond un ffordd i'w gadw, bydded gallu dyn yr hyn a fyddo. Rhaid bod gogwydd moesol y galon tuag at y gwir. Rhaid bod disgyblaeth sydd yn dewis y gwir yn cael ei pharhau. Rhaid bod enaid sydd yn dal i feddu gwelediad ohono yn un sydd yn dal i wrthod ei werthu am weniaith, am arian, am ddyrchafiad mewn cymdeithas. Rhaid ei fod yn un nad yw balchder yn sychu ei gydymdeimlad, na hunan yn ei bellhau oddi wrth
Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/94
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto