Er wedi ei gynysgaeddu â chorff eiddil, cyfrannodd yn ddibrin iddo ddarfelydd y buasai degwm ohono yn gynhysgaeth gyfoethog o oes i oes i lawer o feib awen ei wlad. Nid ydyw yn ieuanc, a phell ydyw o fod yn hen. Mae, er hynny, yn agosach i gyffiniau y tymor diweddaf na'r cyntaf , canys y mae lluosogiad y gwallt a'r cernflew gwynion yn tystio ei fod bellach wedi cyrraedd tiriogaeth yr 'hen lanc' Mae hefyd yn ymarferol wedi trosglwyddo ei hunan i'r dosbarth ystyfnig hwn o blant dynion. Ganwyd ef, fel y cyfeiriwyd eisoes, yn y dref a breswylir ganddo, ac er ei fod bellach yn rhagor na llawn deugain mlwydd oed, y mae yn rhy werthfawr a dwfn ei barch yn ei ardal enedigol iddi roddi llythyr ysgar iddo. Ynfydrwydd mewn ardal ydyw ffarwelio â'i henwogion, ac y mae ef yn ddiddadl yn un o'r cyfryw. Pwy feddyliai wrth sylwi arno yn cerdded yn hamddenol hyd heolydd yr Wyddgrug, gydag un llaw ym mhoced ei lodrau a'r llall yn ymrwyfo yn araf wrth ei ochr; ei ben, ar yr hwn y mae het jim crow ddu, yn cyfateb i'r wisg sydd fynychaf am dano, yn ogwydd mewn gostyngeiddrwydd arwyddocaol o'r enwad y perthynai iddo; ei ddau lygad bychan chwareus
Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/99
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto