Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/12

Gwirwyd y dudalen hon

cyntaf yw byrder. Ond dylid cofio fod cyhoeddi cofiant o'i faint ef yn yr oes hono, yn anturiaeth arianol fawr a phwysig. Erbyn hyn, y mae y cofiant athrylithlawn hwnw wedi myned allan o argraffiad, fel nad oes copi o hono i'w gael am arian, ond fel y mae yn nglyn â Rhyddweithiau Hiraethog. Teimlwn fod swyn diddarfod yn enw Mr. Williams, a bod ei fywyd yn cynwys ffeithiau o duedd mor ddyrchafol, nes y mae yn werth eu hail ddwyn i sylw. Rhoddir mantais i ni drwy gyfrwng ei bregethau a'i sylwadau i weled beth ydoedd ei olygiadau ar brif bynciau y grefydd Gristionogol, ac hefyd i weled yn mha le yr ydym ninau yn sefyli y dyddiau hyn o ran ein golygiadau duwinyddol, wrth eu cyferbynu â'r eiddo ef a'i gydoeswyr. Nid ydym yn dysgwyl y bydd i'r gwaith hwn roddi boddlonrwydd i bawb o'n cyfeillion; a buasai yn dda genym ninau iddo fod yn well.

Dichon y dylem hysbysu mai y ffenestr a ddangosir, yn cael ei chuddio i raddau gan gangen coeden, a dyf o flaen y White House, Bersham, yw ffenestr yr ystafell wely yn yr hon y bu Mr. Williams farw ynddi.