nechreu Ionawr, 1822, a rhan bob mis o ganlyniad, pris Chwech Cheiniog, ar yr un fath bapyr a llythyrenau a'r rhan hon; os ceir digon o enwau erbyn y 15fed o Ragfyr. Dymunir, gan hyny, ar bob gweinidog yn mhlith yr Anymddibynwyr i ymofyn enwau yn ddioed, a'u danfon i'r derbynwyr ysgrifau, fel y gallont hwythau eu danfon i'r Golygwyr erbyn yr amser uchod.
II. Fod gweinidogion yr eglwysi Cynulleidfaol yn gyffredinol i gael eu hystyried y cyhoeddwyr, a bod llywyddiaeth y gwaith yn meddiant deuddeg o honynt fel Dirprwywyr, dau yn mhob sir, sef,
- Trefaldwyn, John Roberts, a David Morgan.
- Dinbych, William Williams, a Robert Everett.
- Meirionydd, Cadwaladr Jones, a Michael Jones.
- Caernarfon, David Roberts, a Edward Davies.
- Mon, John Evans, Beaumaris, a Robert Roberts, Ceirchiog.
- Fflint, David Jones, a Benjamin Evans.
III. Fod y gwaith i gael ei ranu yn ddosbarthiadau, fel y crybwyllir isod; gan hyny, dysgwylir i bob un o'r cyhoeddwyr i anfon ysgrifau ar unrhyw fater a ddewisant, er cynysgaeddu y naill ddosbarth a'r llall; ond dysgwylir i bersonau neillduol gymeryd y gwaith arnynt, a bod yn sicr o ddanfon ysgrifau bob mis yn y drefn ganlynol:—
Dosbarth 1. Hanes Bywydau, &c.:—J. Roberts, Llanbrynmair; Dr. Lewis, Drefnewydd.
2. Traethodau ar Dduwinyddiaeth, a sylwadau