Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/270

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y pwys a'r angenrheidrwydd o gyfiawnder a gonestrwydd rhwng gwr a gwr. Yr oedd Mrs. Williams yn byw dan neillduol ystyriaeth o'i dyledswydd yn mhob peth, beth bynag a ymddangosai idd yn ddyledswydd ni phetrusai ei gyflawni, faint bynag fyddai y draul a'r drafferth gysylltiedig âg ef. Pan ar unrhyw amgylchiad, yn absenoldeb Mr. Williams, y gelwid arni i basio barn anaddfed, a gweithredu yn ddioed, teimlai yn ddwys rhag na byddai wedi gwneuthur yn iawn. Arferai ddywedyd yn ddifrifol, "If I have done wrong I am very sorry". Dichon nad oedd neb yn fwy manylaidd yn y cyflawniad o'i dyledswyddau; na neb o'r tu arall, a bwysai lai arnynt yn y cyflawniad o honynt. Ystyriai ei holl gyflawniadau yn wasanaeth dyledus arni, ac nid yn sylfaen cymeradwyaeth iddi, oblegid ar Grist yn ei gymeriad a'i ras yr oedd holl bwys ei henaid, ac efe yn unig oedd ei holl obaith. Trwy ei chystudd oll yr oedd ei meddwl yn dawel a chysurus, nes oedd yn hyfrydwch bod yn ei chyfeillach. Yr oedd cysuron y grefydd a'i cynysgaeddodd â'r fath gymhelliadau i ddyledswydd yn awr yn llifo i'w henaid fel afon, ac yn talu yn dda am bob traul a thrafferth a gymerodd. Yr oedd ei meddwl yn gwbl ar Grist, ac yn rhyfeddu ei bod wedi caru cyn lleied arno, ac yn galaru na buasai wedi gwneuthur mwy drosto. Gyda'r myfyrdodau yma, ymddifyrai ei meddwl mewn amryw benillion, megys y canlynol: