adael â'r Wern, eto ni allwyd ei chyflwyno iddo hyd nos Fawrth, Mai 16eg, 1837, yr hyn a wnaed mewn cyfarfod cyhoeddus yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Abbot Street, Wrexham. oedd yr anrheg yn gynwysedig o haner can' punt a dysgl arian, ar yr hon y ceir yr argraff a ganlyn:—
TO THE REV. WILLIAM WILLIAMS,
LATE OF WERN,
this salver, accompanied by fifty sovereigns, is presented by his numerous friends in and near Wrexham, as a token of their affectionate esteem of his Christian character, and of grateful remembrance of his past service among them, as a memorial of faithful discharge of his duties as pastor over the people with whom he was harmoniously united for nearly thirty years, and as a testimonial of the disinterested labours and extensive ministerial usefulness by which through the grace of God he was eminently distinguished 'throughout the Principality of Wales Wrexham, April 1837.
Ni ddeallasom beth ydoedd rheswm hyrwyddwyr y symudiad uchod, dros eu gwaith yn dewis cyflwyno yr anrheg yn Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Wrexham, yn hytrach nag yn Nghapel y Wern. Ni chawsom ychwaith gymaint o fanylion trefn y cyfarfod ag a fuasai yn