pryd hyny, ac felly y dywedai y rhai oedd mewn. oedran cyfaddasach i farnu. Yr egwyddor fawr o hunanymwadiad oedd yr un a safai arni, a dangosai fel y mae pethau sydd ynddynt eu hunain yn gyfreithlawn, yn myned yn bechadurus drwy y camarferiad o honynt; a phan yr änt felly, y dylid llwyrymwrthod â hwy. Cyfeiriodd at y sarff bres, yr hon oedd o ordeiniad Duw; ond pan yr aeth yn fagl i'r bobl, gorchymynwyd ei dinystrio. Amlhaodd ei eglurhadau nes y dangosodd yn eglur fod yr egwyddor ar ba un yr oedd y gymdeithas yn seiliedig yn gorwedd yn yr Ysgrythyrau." Ar ein cais, anfonodd yr Hybarch. Benjamin Hughes (M.C.), Llanelwy, i ni yr ysgrif werthfawr a ganlyn, a chan ei bod yn dal perthynas a'r cyfnod hwn yn hanes ein gwrthddrych, rhoddwn hi yma yn ddiweddglo i'r benod hon—"Y mae adgofion boreuaf fy oes yn dal cysylltiad agos â'r dygwyddiadau crefyddol oedd yn nglŷn â'r gwahanol enwadau yn Nhreffynon, lle y'm ganwyd ac y'm dygwyd i fyny. Oedfeuon hynod, Cyfarfodydd Blynyddoi, Cymanfaoedd, Cyfarfodydd Beiblau, gweinidogion dyeithr perthynol i wahanol lwythau Israel yn ymlwybro i'r cysegr, oeddynt y pethau a dynent fy sylw penaf i, ac a wnaent yr argraff ddyfnaf ar fy meddwl. Gan nad oeddym yn byw nebpell oddiwrth gapel yr Annibynwyr, byddwn er yn fachgen pur ieuanc yn cymeryd dyddordeb neillduol yn y Cyfarfod Blynyddol a gedwid yn
Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/297
Prawfddarllenwyd y dudalen hon