Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/300

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn amser dechreu y gwasanaeth, a dacw bregethwr, glandeg yr olwg arno, tua chanol oed, yn codi i fyned drwy y rhanau defosiynol o'r addoliad. Y mae y canu yn wresog, y darlleniad o'r Ysgrythyr yn hyglyw, a'r weddi yn daer, yn deimladwy, ac yn gynwysfawr. Yn mhen enyd o amser dacw y drws o'r tu cefn i'r pulpud yn agor, ac wele weinidog arall yn gwneuthur ei ymddangosiad, ac y mae yn amlwg wrth wedd foddhaus y gynulleidfa ei fod yn uchel yn eu ffafr. Pregethai yn goeth, yn ddoniol, ac yn dda. Ond wedi iddo fod am rhyw dri chwarter awr yn egluro trefn y cymod yn effeithiol, a chyda graddau helaeth o gymeradwyaeth, canfyddid arwyddion ar wynebpryd y gynull- eidfa ei bod yn dysgwyl cyfranogi o seigiau brasach yn y man, ac yn parotoi ei hunan i yfed o felusaf winoedd yr efengyl. Wedi i'r pregethwr cyntaf gilio o'r neilldu, ac i ddor y gafell gael ei agor, wele weinidog arall yn gwneud ei ymddangosiad. Gwr yn tueddu y pryd hwn at fod braidd yn deneu, ac ychydig yn dalach na'r cyffredin. Gwynebpryd agored, wedi ei eillio yn lân, dau lygad tanllyd, eryraidd, yn llawn gwroldeb a meddylgarwch, ac yn meddu digon o allu i dreiddio i ddirgelion natur y gynulleidfa. Talcen uchel, cnwd helaeth o wallt, a hwnw, er nad yn annhrefnus, eto heb ei drin a'i droi yn goegfalch. Gwddf-gadach gwyn (nid gwddf-dorch glerigol), can wyned a'r eira, a hwnw wedi ei glymu, nid yn ddolenog ac ymddangos-