Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/321

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chafodd ei waredu oddiwrth ei anwyd poenus, oblegid nid oedd nemawr yn well dranoeth, ond aeth i Fostyn, a gwnaeth ei ran yn effeithiol iawn yn y cyfarfod, er y teimlai efe ei hun mai gwaith anhawdd oedd iddo sefyll i fyny. Am yr wyl ddirwestol uchod, dywed y Parch. J. Thomas, D. D., yn y Geninen, am 1884, tudal. 99, fel y canlyn:—"Yr oedd Mr. Williams o'r Wern yn yr ŵyl hono, a dyna yr unig dro i mi fod yn siarad âg ef; ac nid anghofiaf ei eiriau caredig, a'i ddull dirodres yn siarad â bachgen tlawd, dinod, hollol ddyeithr iddo. Nid oedd yn iach ar y pryd, ac yn nhy Mr. Pugh dywedai wrthyf, 'Daffod fy sgidia' i; nei di;' a theimlwn yn fraint i gael 'datod carai ei esgidiau.' Erbyn dau o'r gloch y daethum i'r cyfarfod, ac yr oedd yno luaws wedi d'od o Fflint, Bagillt, Treffynon, Llanerchymor, a Ffynongroyw, ac wedi bod yn gorymdeithio trwy y lle, er ei bod ddiwrnod gwlawog iawn. Da yr wyf yn cofio Mr. Enoch G. Salisbury yno yn llefnyn main, ac yn rheoli adran Bagillt; ac wedi cyrhaedd i'r capel, yr hwn a orlanwyd hyd y drysau, galwyd ar yr Hybarch Mr. Jones, Newmarket, i lywyddu. Nid wyf yn cofio fawr am y cyfarfod; ond, ar ei ganol daeth Mr. Williams o'r Wern i mewn, a galwyd arno yn fuan i siarad. 'Y creadur wedi ei ddarostwng i oferedd,' oedd yr ymadrodd a gymerodd i fyny; a mawr mor hapus y triniodd ef. Darluniai yr ŷd, a fwriadwyd at gynal calon dyn, yn ocheneidio yn