Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/404

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pregethu oddiar y geiriau, 'Os yw Crist ynoch y mae y corff yn farw o herwydd pechod.' Ar ei ol pregethodd Mr. Williams oddiar y geiriau, 'Oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i'r byd, i angylion, ac i ddynion.' Ei bwnc oedd, 'Y Cristion yn chwareu ei gamp.' Dywedai fod pleidiau lluosog a phwysig yn edrych arno, ac yn cymeryd dyddordeb ynddo, 'Y byd, yr angylion, a dynion.' Os gofynai neb paham y tynai y fath sylw pryderus ato, gellir ateb yn mysg pethau eraill, fod anghyfartalwch y pleidiau sydd yn ymdrechu â'u gilydd yn un rheswm am hyny. Tybiwch,' meddai, 'fod brwydr i gymeryd lle yfory yn Llanfyllin, rhwng llew ac oen, a bod pob sicrwydd mai yr oen bach a enillai y fuddugoliaeth. Dylifai yr holl bobl o Benybontfawr, Llangynog, Llanrhaiadr, ac o'r holl gylchoedd cyfagos, i weled oen bach yn gorchfygu llew. Yr un modd y mae y pleidiau pryderus yn edrych ar y Cristion gwan yn brwydro, ac yn llawenhau wrth ei weled yn gorchfygu y cryf arfog.' Er fod Mr. Williams yn ei fedd er's pedair blynedd ar ddeg a deugain, nid yw yr hiraeth am dano wedi cilio o'm mynwes hyd y dydd heddyw, ond i ba beth yr hiraethaf, ddychwel efe ataf fi." Myfi a äf ato ef, ond ni

Terfynwn y benod hon gyda'r Englynion Coffadwriaethol canlynol o eiddo yr Hybarch Gwalchmai, y rhai a gyfansoddodd efe ar gyfer y gwaith hwn:—